Re: A Better Deal for Future Generations – setting the challenge for the Cardiff Capital Region City Deal
The £1.2bn Cardiff Capital Region deal was signed in March 2016 to improve public transport and bring economic growth to south east Wales over the next 20 years. It includes £734m for a south Wales Metro, bringing better rail and bus travel in the capital and valleys. It also involves 10 local councils and aims to bring 25,000 new jobs and an extra £4bn in private sector investment.
Since becoming Future Generations Commissioner for Wales, I have engaged with local authority leaders on the vital opportunity provided by the Cardiff Capital Region City Deal to fulfil their duties under the Well-being of Future Generations Act and deliver a programme that improves well-being for generations to come.
The City Deal must make a difference to the people most in need and address long-term challenges. In particular, I would like to see how the programme is developed in line with the Five Ways of Working enshrined in the Act: Integration; Long-term thinking; Early Action; Collaboration; and Involvement.
This is an opportunity to show how applying the Act to a major public investment programme could deliver not just some anticipated short-to-medium economic gains but also transformational change in terms of our economic, social, cultural and environmental well-being. It’s a chance to rise to persistent challenges in a truly long-term and preventative way and we hope that the learning from this will be relevant and applicable not just to the South East but other parts of Wales.
As part of these discussions, I have offered to set out in more detail some of the challenges and opportunities in my paper, "A Better Deal for Future Generations - setting the challenge for the Cardiff Capital Region City Deal", which we hope will be useful as the City Deal Board considers the report by the Growth and Competitiveness Commission, due to be published later this week.
The Act requires that we do not address single issues, such as the economy, in isolation. The City Deal must play its role in reversing inequalities in health and well-being, for example through stimulating different patterns of work and employment, and breaking inter-generational cycles of poverty where it is most persistent. It must also address climate change through developing a low carbon economy and be used to make a real and lasting difference to lives of people living and working in the region.
I believe it is possible to achieve economic, environmental, social and cultural improvements simultaneously, if the approach is driven by a bigger and better vision than simply increasing economic activity. The document highlights other areas where this approach is being taken. As Future Generations Commissioner, I would maintain that the Cardiff Capital Region, indeed the whole of Wales, deserves nothing less than a similarly visionary approach fit for our future generations.
As City Deals and economy strategies are developed in all parts of Wales, the learning from this programme will be relevant. I look forward to sharing the progress that is made, including from other areas where this approach is being taken.
Please feel free to promote and share this information within your own networks.
Gwell Bargen ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol - gosod yr her ar gyfer Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
Llofnodwyd Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gwerth £1.2 miliwn, ym Mawrth 2016 i wella trafnidiaeth gyhoeddus a dwyn twf economaidd i dde ddwyrain Cymru dros yr 20 mlynedd nesaf. Mae’n cynnwys £734m ar gyfer Metro i dde Cymru, a fydd yn gwella teithio ar drên a bws yn y brifddinas a’r cymoedd. Mae 10 awdurdod lleol hefyd yn ymgyfrannu a’r nod yw creu 25,000 o swyddi newydd a £4biliwn ychwanegol mewn buddsoddiad gan y sector preifat.
Ers i m ddod yn Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, rwyf wedi ymgysylltu ag arweinyddion awdurdodau lleol ynglŷn â'r cyfle allweddol a gynigir iddynt gan Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i gyflawni eu dyletswyddau o dan y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a chyflwyno rhaglen sy'n gwella y cenedlaethau sydd i ddod.
Mae’n rhaid i’r Fargen Ddinesig wneud gwahaniaeth i’r bobl mwyaf anghenus a mynd i’r afael â heriau hirdymor. Yn arbennig, hoffwn weld sut y caiff y rhaglen ei datblygu yn unol â’r Pum Dull o Weithio a ymgorfforir yn y Ddeddf: Integreiddio; meddwl yn yr hirdymor; Gweithredu Cynnar; Cydweithio, ac Ymgyfraniad. Mae hwn yn gyfle i ddangos sut y gallai cymhwyso’r Ddeddf i raglen fuddsoddi gyhoeddus o bwys gyflawni nid yn unig enillion economaidd a ragwelir yn y tymor-byr-i-ganolig, ond hefyd gyflawni newid trawsffurfiol yn nhermau’n llesiant economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol. Mae’n gyfle i gwrdd â heriau parhaus mewn dull hirdymor gwirioneddol ataliol a gobeithiwn y bydd yr hyn a ddysgir yn berthnasol nid yn unig i’r De Ddwyrain ond i rannau eraill o Gymru. Fel rhan o’r trafodaethau hyn, cynigiais egluro’n fanylach rai o’r heriau a chyfleoedd yn fy mhapur "Gwell Bargen i Genedlaethau'r Dyfodol - gosod yr her ar gyfer Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd" a fydd gobeithio yn ddefnyddiol wrth i Fwrdd y Fargen Ddinesig ystyried adroddiad y Comisiwn Twf a Chystadleurwydd, sydd i fod i gael ei gyhoeddi’n hwyrach yr wythnos hon. Mae’r Ddeddf yn gofyn i ni beidio mynd i’r afael â materion unigol, megis yr economi, ar eu pennau eu hunain. Rhaid i’r Fargen Ddinesig chwarae ei rhan mewn gwyrdroi anghyfartaledd mewn iechyd a llesiant, er enghraifft drwy ennyn newid mewn patrymau gwaith a chyflogaeth, a thorri’r cylchoedd tlodi mwyaf parhaus a drosglwyddir o un genhedlaeth i’r llall. Rhaid iddi hefyd fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd drwy ddatblygu economi carbon isel a chael ei defnyddio i wneud gwahaniaeth gwirioneddol a pharhaol i fywydau pobl sy’n byw a gweithio yn y rhanbarth.
Credaf ei bod yn bosibl cyflawni gwelliannau economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol i gyd ar yr un pryd, os ydyw’r ymagwedd yn cael ei sbarduno gan weledigaeth sy’n fwy ac yn well na chynyddu gweithgaredd economaidd yn unig. Mae’r ddogfen yn amlygu meysydd eraill lle mae’r ymagwedd hon yn cael ei mabwysiadu. Fel Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, buaswn yn dadlau bod Rhanbarth-Ddinas Caerdydd, ac yn wir Cymru gyfan, yn haeddu dim byd llai nag ymagwedd weledigaethol debyg sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Wrth i Fargeinion Dinesig a strategaethau economaidd gael eu datblygu ym mhob rhan o Gymru, bydd yr hyn a ddysgwyd o’r rhaglen hon yn berthnasol. Edrychaf ymlaen at rannu’r cynnydd a wneir, yn cynnwys o ardaloedd eraill lle mae’r ymagwedd hon yn cael ei mabwysiadu. Croeso i chi hybu’r wybodaeth hon a’i rhanni gyda’ch rhwydweithiau.