Welsh flyer below/Hysbyseb Cymraeg Islaw
Title: Exemplar Design Stage A465 Heads of the Valleys (Section 2)
Date: Thursday 8th June 2017
Location: Gilwern (venue confirmed on registration)
Time: 8.30am registration for a 9.00am start finish approximately 11.30am
Cost: Free
Hosted jointly with CECA and ICE. The A465 is recognised in the Welsh Governments National Transport Plan as a strategically important route. The dualling scheme extends for 8.1km from Brynmawr in the West to Gilwern in the East. This will connect the previously completed Section 1 (Abergavenny to Gilwern) and Section 3 (Brynmawr to Tredegar) schemes. The scheme includes the construction of 14 major structures, over 12.5km of various types of retaining walls as well as excavation of over 1.2 million m3 of earthworks. All this through an extremely narrow rock gorge with a river on one side while maintaining current traffic flows on the existing route. Many of these are elements which are pushing the boundaries of standard construction techniques including the largest span precast concrete arch in the UK, along with installing a fully precast deck to the S08 River crossing structure in order to reduce working at height and the risks associated with it.
Lying within the Brecon Beacons National Park the team also have considerable environmental challenges to deal with including Special Areas of Conservation, several Sites of Special Scientific Interest and Scheduled Ancient Monuments. This improvement to the A465 is also critical to the social and economic regeneration of the Heads of the Valleys area. It will improve access to key services, jobs and markets supporting inward investment to areas.
The Project was awarded by the Welsh Government to Costain in June 2011. This marked the commencement of the Early Contractor Involvement (ECI) phase. Key successes to note are the completion of the preliminary design leading up to the publication of draft Orders in October 2013 and a successful Public Local Inquiry in March/April 2014. Construction commenced in December 2014 with completion aimed for Late 2018.
The team will be expanding on the above and the innovative, Exemplar and Best Practice elements of the scheme at the event so sign up early.
How to Book: This event is free of charge but you must register in advance. To reserve your place please email cewalesevents@cewales.org.uk stating your full contact details and the names of all delegates wishing to attend. Substitution of delegates can be made at any time.
Non-attendance by any registered delegate will be charged £20 plus VAT.
Visit our website
Teitl: Cynllun Enghreifftiol: Cyfnod Dylunio Adran 2 Ffordd Blaenau’r Cymoedd - yr A465
Dyddiad: Dydd Iau Mehefin 2017
Lleoliad: Gilwern (lleoliad yn cadarnhau ar gofrestru)
Amser: 8:30 am cofrestru am 9.00 am dechrau gorffen tua 11.30 am
Cost: Am Ddim
Digwyddiad ar y cyd gyda CECA a ICE Cymru. Caiff Ffordd yr A465 ei chydnabod yng Nghynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol Llywodraeth Cymru fel llwybr strategol bwysig. Mae’r cynllun deuoli hwn yn ymestyn am 8.1km o Frynmawr yn y gorllewin i Gilwern yn y dwyrain. Bydd yn cysylltu dwy adran a gwblhawyd eisoes, sef Adran 1 (Y Fenni i Gilwern) ac Adran 3 (Brynmawr i Dredegar).
Adeiledir 14 prif strwythur a thros 12.5km o wahanol fathau o waliau cynnal. Hefyd cloddir dros 1.2 miliwn m3 o waith pridd – oll mewn ceunant creigiog cul gydag afon yn rhedeg ar un ochr, tra’n cadw traffig yn llifo’n esmwyth ar y llwybr presennol.
Mae llawer o’r elfennau hyn yn gwthio ffiniau technegau adeiladu safonol – yn cynnwys pont fwa o goncrit parod (precast concrete) gyda’r rhychwant mwyaf yn y Deyrnas Unedig. Cafodd dec croesfan S08 dros yr afon ei chastio’n llawn ymlaen llaw er mwyn lleihau’r angen i weithio ar uchder mawr ac osgoi’r peryglon cysylltiedig.
Gan fod y safle o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae’r tîm yn gorfod goresgyn heriau amgylcheddol sylweddol, yn cynnwys delio ag Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a Henebion Cofrestredig.
Mae’r gwelliant hwn i’r A465 yn rhan allweddol o’r ymdrech i adfywio ardal Blaenau’r Cymoedd yn gymdeithasol ac economaidd. Bydd yn gwella mynediad at wasanaethau, swyddi a marchnadoedd pwysig, ac yn helpu i ddenu buddsoddiad i’r ardal.
Gosodwyd y contract gan Lywodraeth Cymru i gwmni Costain ym Mehefin 2011, sef dechrau’r cyfnod Ymwneud Cynnar gan y Contractwr (Early Contractor Involvement). Ymhlith y llwyddiannau a gafwyd eisoes y mae cwblhau’r cyfnod dylunio dechreuol a arweiniodd at gyhoeddi’r Gorchmynion drafft yn Hydref 2013 a chynnal Ymchwiliad Cyhoeddus Lleol llwyddiannus ym Mawrth/Ebrill 2014. Dechreuodd y gwaith adeiladu yn Rhagfyr 2014 gyda’r bwriad o’i gwblhau erbyn rhan olaf 2018.
Bydd y tîm yn ymhelaethu ar y llwyddiannau uchod gan ddwyn sylw at elfennau arloesol, nodweddion enghreifftiol ac arferion gorau’r cynllun. Felly, archebwch eich lle yn fuan.
Sut i archebu lle: Mae'r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim, ond rhaid i chi gofrestru o flaen llaw. Gyrrwch ebost at CEWales Digwyddiadau gan nodi eich manylion cyswllt yn llawn ac enwi pawb sy’n dymuno mynychu. Gallwch newid eich cynrychiolydd ar unrhyw adeg.
Codir diffyg presenoldeb gan unrhyw gynrychiolydd cofrestredig £20 (a TAW) oni bai eich bod wedi hysbysu ein cyn y digwyddiad.
Er mwyn lleihau gwastraff yn ein digwyddiadau, mae CEW yn gweithredu polisi o gadarnhau manylion y lleoliad ar ôl cofrestru’n unig. Bydd hyn yn sicrhau mai dim ond ar gyfer y rhai sydd wedi cofrestru y byddwn yn darparu ac nad ydym yn gor-archebu ar gyfer unigolion a allasai ddod heb archebu lle, neu rai nad ydynt yn.
Ewch i'n gwefan