In this issue
Nuclear Power on The Horizon For Anglesey?
Finance Minister Statement
CEW AWARDS 2014


BIM4Civils - St Asaph

Welsh flyer below / Hysbyseb Cymraeg Islaw

Title: BIM4Civils
Date: Monday 6th October 2014
Location: St Asaph (venue confirmed on registration
Time: 12pm - 4.30pm (light lunch provided)
Cost: £90 plus VAT

Constructing Excellence in Wales and ICE Wales Cymru are pleased to present the following event.

Responding to feedback from our previous successful run of Demystifying BIM, Intermediate BIM and Government Soft Landings sessions Constructing Excellence Wales are pleased to announce – BIM 4 Civils – in action.

This half day seminar will look at the drivers and practicalities of BIM and its application and adoption on Civil Engineering projects.

The seminar will equip delegates with a sound understanding of BIM, where it has come from and how it has been progressively adopted on projects within a capital programme administered through a framework. Delivered by Professor Andrew Thomas co-author of BIM strategy and recognised BIM presenter and facilitator.

There will be a live demonstration of creating an infrastructure based BIM model from first principles and web based data –through to using that model for take-off purposes and co-ordination of proposed project elements and existing services.

Mott MacDonald will tell their Utilities BIM story and be able to articulate the challenges and benefits of their BIM journey on Civils infrastructure projects in the water industry.

The session is populated with real case studies (Civils and Building), access to models, as well as considering compliance with BIM standards and a debate as to the future for BIM.

We have allocated time for open discussion  to take questions  and we look forward to your input and challenge.

About the speakers:

Alan Hymers, Divisional Director – Mott MacDonald Consulting Engineers – Alan is a Divisional Director at Mott MacDonald and is Framework Manager for Mott MacDonald’s Northumbrian Water work stream. With circa 50 projects live on this programme at any one time, a key part of Alan’s role is to drive innovation and efficiencies across the Mott Macdonald work; ensuring value for money is driven across all projects. Part of that initiative has been to implement Building Information Modelling on project work for NWL.
Alan is a Chartered Civil and Environmental Engineer and has many years of managing work for Water Industry clients. Alan is also Water Practice Leader and Infrastructure BIM Champion within the Buildings and Infrastructure part of Mott MacDonald’s business in the UK and a key part of that role is capture and facilitate best practice from within the BIM community and facilitate its use across all disciplines in the infrastructure sector.

Professor Andrew Thomas FICE MBA – co-author of BIM report and mandation, advisor to both Clients and Suppliers on BIM and its procurement and implementation in the real world. Having been involved with Constructing Excellence at every level for over 12 years he is utterly familiar with the challenges of improvement and change and delivered the earlier CEW BIM sessions. He and his team have been working with CEW and CLAW to create and implement their All Wales BIM toolkit for Clients – to be launched to suppliers with workshops in Oct and September, and an overview will be included in his presentation.

Keith Nicholson – modelling technician at Autodesk technical support team. Keith is a Civil Engineer by qualification and is technical support to users. He is neither commissioned nor responsible for sales in any way and is with us to explore and demonstrate what the technology can do for us.

How to Book: To reserve your place please email CEWales Events stating your full contact details and the names of all delegates wishing to attend. Substitution of delegates can be made at any time.

To become a Best Practice Club member visit our Club Page for details. Payments can now be made by credit/debit card.

Non-attendance by any registered delegate will be charged £20 unless you have informed us by Friday 3rd October 2014

In order to reduce wastage at our events CEW operates a policy of only notifying venue details when issuing registration confirmation. This ensures we only cater for delegates who have registered and don’t over order for individuals who may or may not turn up on the day.


CEWales Website


Teitl: BIM4 Sifil - Modelu Gwybodaeth Adeiladu
Dyddiad: Dydd Llun 06 Hydref  2014
Lle: St Asaph
Amser: 12pm - 4pm (cinio ysgafn a ddarparwyd)
Cost: £90 + TAW 

Mae Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru (CEW) ac ICE Cymru yn falch o drefnu’r digwyddiad canlynol:

Yn dilyn yr ymateb i’n seminarau llwyddiannus blaenorol: “Egluro’n syml beth yw BIM”; “BIM Lefel Ganolraddol” a “Glaniadau Meddal y Llywodraeth – Government Soft Landings” mae Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru (CEW) yn falch o drefnu digwyddiad arall o’r enw “BIM 4 Sifil Ar Waith”.

Yn y seminar hanner diwrnod edrychir ar y ffactorau sydd wrth wraidd y symudiad at BIM, ynghyd â’r ystyriaethau ymarferol wrth ei gymhwyso a’i fabwysiadu mewn prosiectau Peirianneg Sifil.
Bydd y seminar yn rhoi dealltwriaeth gadarn o BIM i’w mynychwyr. Eglurir o lle y daeth BIM a sut y dechreuwyd ei ddefnyddio’n gynyddol ar brosiectau mewn rhaglenni cyfalaf a weinyddir drwy fframwaith. Yn arwain bydd yr Athro Andrew Thomas, cyd awdur strategaeth BIM ac awdurdod , cyflwynydd a hwylusydd cydnabyddedig yn y maes.

Rhoddir arddangosiad byw o sut i greu model seilwaith gan ddilyn egwyddorion BIM ynghyd â data a gasglwyd o’r we gan wneud hynny o’r dechrau cyntaf. Dangosir sut i ddefnyddio’r model hwnnw i ddechrau a chydlynu elfennau’r prosiect arfaethedig gyda gwasanaethau sydd eisoes yn bodoli.

Bydd Mott MacDonald yn adrodd eu stori BIM Seilwaith gan amlygu heriau a manteision eu taith BIM wrth weithredu prosiectau seilwaith i’r diwydiant dŵr.

Bydd y sesiwn yn cynnwys enghreifftiau go iawn (Sifil ac Adeiladu), mynediad at fodelau, sylw i ofynion cydymffurfio â safonau BIM a thrafodaeth ynglŷn â dyfodol BIM.

Clustnodwyd amser ar gyfer trafodaeth agored a chwestiynau ac edrychwn ymlaen at eich cyfraniadau heriol.

Y siaradwyr fydd:

Alan Hymers, Cyfarwyddwr Adrannol, Peirianwyr Ymgynghorol Mott MacDonald - Mae Alan yn Gyfarwyddwr Adrannol gyda Mott MacDonald a Rheolwr Fframwaith Gweithfeydd Dŵr y cwmni yn Northumbria. Gydag oddeutu 50 prosiect byw ar y gweill ar unrhyw adeg, rhan allweddol o swyddogaeth Alan yw hyrwyddo arloesedd ac effeithlonrwydd ym mhob dim a wna Mott Macdonald gan sicrhau y rhoddir sylw i werth am arian ym mhob prosiect. Rhan o’r ymgyrch honno yw gweithredu BIM ar waith prosiect i NWL.
Mae Alan yn Beiriannydd Siartredig Sifil ac Amgylcheddol gyda blynyddoedd lawer o reoli gwaith i gleientiaid yn y Diwydiant Dŵr. Mae hefyd yn Arweinydd Ymarfer Dŵr ac Eiriolwr Seilwaith BIM o fewn adain Adeiladu a Seilwaith busnes Mott Macdonald yn y Deyrnas Unedig. Rhan allweddol o’i swydd yw canfod a hyrwyddo’r arferion gorau o fewn y gymuned BIM a hwyluso’r defnydd o BIM ar draws pob un o ddisgyblaethau’r sector seilwaith.

Yr Athro Andrew Thomas FICE MBA – cyd awdur adroddiad ar ddatblygu ac awdurdodi BIM. Mae’n cynghori cleientiaid a chyflenwyr ynghylch BIM, a’i ofynion caffael a gweithredu yn y byd go iawn. Bu’n ymwneud ag Adeiladu Arbenigedd/Constructing Excellence ar bob lefel ers mwy na 12 mlynedd ac mae’n llwyr gyfarwydd â heriau sy’n gysylltiedig â sicrhau gwelliant a newid. Ef a gyflwynodd y sesiynau BIM blaenorol a drefnwyd gan CEW. Bu ef a’i dîm yn gweithio gyda CEW a CLAW i greu a gweithredu Pecyn Cymorth BIM Cymru Gyfan i Gleientiaid a lansir i gyflenwyr mewn gweithdai i’w cynnal ym misoedd Hydref a Medi. Bydd yr Athro Thomas yn rhoi trosolwg o’r pecyn newydd yn y seminar hon.

Keith Nicholson – technegydd modelu gyda thîm cefnogaeth dechnegol Autodesk. Cymhwysodd Keith fel Peiriannydd Sifil ac mae’n cynnig cefnogaeth dechnegol i ddefnyddwyr. Nid gwerthu yw ei waith o gwbl. Daw atom i’r seminar i archwilio ac arddangos yr hyn y gall technoleg ei wneud drosom.

Sut i Archebu: I gadw lle, ebostiwch CEWales Events gan roi eich holl fanylion cyswllt ac enw pob cynrychiolydd sydd am ddod. Gallwch roi enw cynrychiolwyr eraill yn eu lle ar unrhyw adeg.

I ddod yn aelod o’r Clwb Arferion Gorau ewch at Dudalen y Clwb am fanylion. Mae modd yn awr talu trwy gerdyn credyd/debyd.

Codir £20 ar unrhyw gynrychiolydd cofrestredig na fydd yn bresennol oni roddir gwybod i ni erbyn Dydd Gwener 3 Hydref 2014.

Er mwyn lleihau gwastraff yn ein digwyddiadau, mae gan CEW bolisi o roi gwybod am fanylion y lleoliad yn unig wrth anfon cadarnhad cofrestru. Mae hyn yn fodd o sicrhau ein bod yn darparu ar gyfer cynrychiolwyr sydd wedi cofrestru ac nad ydym yn gor-archebu ar gyfer unigolion a all ymddangos neu beidio ar y diwrnod.


CEWales Gwefan

 

Facebook Twitter LinkedIn Del.icio.us Digg

Return to cover page >>
Newsletter Marketing Powered by Newsweaver